#

Deiseb: Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach: //www.cynulliad.cymru/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1387,Y Pwyllgor Deisebau | 29 Ionawr 2019
 Petitions Committee | 29 January 2019
 
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb:

Teitl y ddeiseb: Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach fel bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai yn cael disgownt o 100 y cant. At hynny, bod unrhyw fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,000.01 a £20,000 yn cael disgownt/rhyddhad ar system raddedig rhwng 0 a 100 y cant.

Ar hyn o bryd nid yw'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach ond yn cynnig disgownt o 100 y cant i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000. Ond, yn Lloegr, mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael disgownt o 100 y cant.

 

Y cefndir

Mae ardrethi busnes (a elwir hefyd yn ardrethi annomestig) wedi'u datganoli'n llwyr i Gymru ers mis Ebrill 2015. Mae ardrethi busnes yn dreth eiddo a delir ar eiddo annomestig a dyma'r modd y mae busnesau a defnyddwyr eraill eiddo annomestig yn cyfrannu tuag at gost gwasanaethau awdurdod lleol.

Ffynonellau: Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Non-Domestic Rating: Stock of Properties and update of 2017 revaluation statistics (Saesneg yn unig) a Llywodraeth Cymru, Cyllideb Derfynol 2018-19

 

Caiff ardrethi busnes eu cyfrifo drwy luosi gwerth ardrethol eiddo â'r lluosydd ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn prisio eiddo ar gyfer ardrethi busnes ac mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r lluosydd (sy'n gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr).

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig rhyddhad a all ostwng bil ardrethi busnes. Caiff unrhyw ryddhad y mae'r eiddo yn gymwys iddo ei dynnu oddi ar y rhwymedigaeth yn y bil ardrethi busnes terfynol.

 

Camau Llywodraeth Cymru

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach

Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol. Mae hyn yn eithrio safleoedd busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 rhag talu ardrethi busnes. Mae safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n cael ei leihau'n raddol; gyda chanran y rhyddhad ardrethi a ddyfarnwyd yn gostwng 1 y cant am bob £60 o werth ardrethol dros £6,000. Bydd modd i fusnesau sydd â sawl safle gael rhyddhad ar ddau eiddo fesul awdurdod lleol.

Mae ystod o fentrau eraill gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a all roi rhyddhad i fusnesau:

§  Bydd busnesau bach a oedd yn cael rhyddhad trosiannol ar ôl ailbrisio ardrethi busnes 2017 yn parhau i gael rhyddhad yn 2018-19 a 2019-20.

§  Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr, sy'n rhoi rhyddhad i safleoedd cymwys ar y stryd fawr, megis siopau, tafarnau a chaffis sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000.

§  Yn 2018-19, darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid swm o £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ddatblygu eu cynlluniau rhyddhad ardrethi dewisol eu hunain i gynorthwyo busnesau yn eu hardal leol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.

§  Mae gan awdurdodau lleol hefyd bwerau i ddyfarnu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol o hyd at 100 y cant i fusnesau yn eu hardal, er ei bod yn ofynnol iddynt ariannu costau hyn yn llawn.

§  Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu rhyddhad caledi o hyd at 100 y cant i fusnesau yn eu hardal.

§  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal cyfres o gynlluniau i roi rhyddhad i fusnesau bach newydd neu sy'n ehangu mewn Ardaloedd Menter. Daeth y cynllun diweddaraf i ben ar 30 Mawrth 2018.

Rhyddhad Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig rhyddhad i dalwyr ardrethi yn Lloegr ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf penodol. Mae rhyddhad ar gael i fusnesau bach, ardaloedd gwledig, elusennau ac ardaloedd menter. Hefyd, mae cynghorau Lloegr yn cynnig rhyddhad dewisol a rhyddhad caledi penodol.

Mae'r meini prawf ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yn Lloegr yn wahanol i Gymru. Mae'r rhyddhad ar gael i eiddo a brisiwyd yn llai na £15,000. Mae eiddo sydd â gwerth ardrethol dan £12,000 yn cael rhyddhad 100 y cant ac mae'r rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £15,000 yn cael rhyddhad graddedig o 100 y cant i 0 y cant.

Mae rhyddhad yn gyfyngedig i un eiddo. Os caiff ail eiddo ei gaffael, bydd y rhyddhad presennol ar y prif eiddo yn parhau i fod ar gael am 12 mis. Yna, mae'r rhyddhad ar gyfer y prif eiddo ar gael, ar yr amod nad oes gwerth ardrethol uwchlaw £2,899 i'r un eiddo arall, a bod cyfanswm gwerth ardrethol yr holl eiddo'n llai nag £20,000 (neu £28,000 yn Llundain).

Mae Lloegr hefyd yn gweithredu lluosydd busnesau bach ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol islaw £51,000. Mae hyn yn is na'r lluosydd safonol. Y lluosydd busnesau bach yw 48c a'r lluosydd safonol yw 49.3c o 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2019 (mae'r lluosydd yn uwch yn Ninas Llundain).

Mae gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau. Caiff y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) yng Nghymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r trothwyon ar gyfer rhoi rhyddhad wedi'u seilio ar sylfaen drethi Cymru a chyfran y busnesau bach yng Nghymru - y ddau gryn dipyn yn wahanol i'r hyn ydynt yn Lloegr. Oddeutu £22,000 yw'r gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru; yn Lloegr mae oddeutu £33,000. Hefyd, caiff y system yn Lloegr ei hariannu'n rhannol drwy luosydd uwch ar gyfer busnesau mwy. Mae'n iawn fod ein system ardrethi a rhyddhad ni yn adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn.

Datblygiadau diweddar

Cyhoeddodd cyllideb Hydref Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2018 ddisgownt manwerthu ardrethi busnes i gefnogi rhyddhad ar gyfer safleoedd y stryd fawr. Cynigiwyd y rhyddhad am ddwy flynedd o fis Ebrill 2019. Cyhoeddwyd rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant ar wahân ar gyfer tai bach cyhoeddus. Mae hyn yn ychwanegol at gynlluniau eraill yn Lloegr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid canlyniadol yn 2019-20 oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU, ond nid yw cyllid canlyniadol 2020-21 wedi'i feintioli eto.  Mewn ymateb i gwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Mark Drakeford):

Nid oes angen inni efelychu'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, gan fod gennym gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yma yng Nghymru eisoes, yn wahanol i Loegr. Fe'i cyflwynasom y flwyddyn cyn y ddiwethaf mewn trafodaeth gydag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, lle cytunasom ar baramedrau ar y cyd ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yng Nghymru. Rydym wedi ei barhau eleni. Gan ddefnyddio'r swm canlyniadol ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau ei fod yn fwy hael ar gyfer busnesau yng Nghymru na'r hyn y gallasom ei wneud hyd yn hyn. Byddwn yn llunio cynllun sy'n addas ar gyfer maint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen ardrethi annomestig yng Nghymru, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau lle mae ei angen fwyaf.

Yn dilyn hyn, ar 10 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid estyniad i gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr. Mae hyn yn gymwys i 2019-20 a byddai'n darparu rhyddhad llawn ar gyfer eiddo cymwys hyd at £9,100 a chymorth hyd at £2,500 ar gyfer eiddo a brisir hyd at £50,000.  Mae cyllideb derfynol 2019-20 yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu cyllid canlyniadol llawn y DU o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr ar gyfer rhyddhad ardrethi: rhyddhad ardrethi annomestig £23.6 miliwn i gynyddu cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr a £2.4 miliwn yn fwy ar gyfer rhyddhad ardrethi dewisol.  

Datblygiadau eraill Llywodraeth Cymru

Datblygiadau diweddar o ran ardrethi busnes yng Nghymru:

§  Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Mark Drakeford) ddatganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2018 ynghylch dyddiad yr ailbrisiad nesaf (2021). Roedd hyn hefyd yn cynnwys manylion ar ddiwygio trethi lleol gan Lywodraeth Cymru.

§  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ddiwygio cyllid Llywodraeth Leol ym mis Hydref 2018, sy'n cynnwys gwybodaeth am ardrethi busnes.

§  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig ym mis Hydref 2018 ynghylch twyll ac osgoi talu ardrethi annomestig, a ddilynodd ymgynghoriad ar y mater hwnnw.

§  Fel rhan o gyllideb ddrafft 2019-20 Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd y byddai safleoedd gofal plant cofrestredig yn cael rhyddhad 100 y cant o 1 Ebrill 2019 (rhyddhad ar waith am 3 blynedd hyd at 31 Mawrth 2022).

Trafododd Pwyllgor Deisebau'r Pedwerydd Cynulliad ddeisebau sy'n ymwneud ag ardrethi busnes, gan gynnwys y canlynol:

§  P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach – Cefnogwch ein Strydoedd Mawr (Ionawr 2015)

§  P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru (Mis Ionawr 2013 tan fis Gorffennaf 2016)

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.